Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Medi 2022
Amser:
09.30 -
14.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12964
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Jayne Bryant AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Jonathan Price, Llywodraeth Cymru Matt Wellington, Llywodraeth Cymru Lisa Daniels-Griffiths, Llywodraeth Cymru Natasha Davies, Partner Polisi, Chwarae Teg Rhiannon Hardiman, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Alex Chapman, Sefydliad Economeg Newydd Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Louise Clarke, Llywodraeth Cymru Richard Clark, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
Yn ei gyfarfod ar 22 Medi, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o ddechrau'r cyfarfod heddiw.
Cofrestru (09.15-09.30)
1 Trafod y flaenraglen waith
1.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Y Prif Economegydd
2.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr economi gan Jonathan Price, y Prif Economegydd.
3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Cynllun Gwella’r Gyllideb
3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Cynllun Gwella’r Gyllideb gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Cyllidebu ar sail rhyw
4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar gyllidebu ar sail rhyw gan Natasha Davies, Chwarae Teg.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Cyllidebu gwyrdd
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar gyllidebu gwyrdd gan Rhiannon Hardiman, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac Alex Chapman, o’r New Economics Foundation.
Egwyl (11.45-12.00)
Cyhoeddus
6 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
6.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
6.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Jack Sargeant AS yn bresennol ar ei rhan fel dirprwy.
7 Papur(au) i'w nodi
7.1 Nodwyd y papur.
8 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Craffu cyn y Gyllideb
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; a swyddogion Llywodraeth Cymru mewn sesiwn cyn y gyllideb ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
8.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
· I ofyn i'r Gweinidog(ion) perthnasol roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am effaith chwyddiant a gwerth y bunt ar Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 10 a 12.
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Craffu cyn y Gyllideb: Trafod y dystiolaeth
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyhoeddus
11 Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
11.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd; a swyddogion Llywodraeth Cymru ar oblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).
Preifat
12 Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Trafod y dystiolaeth
12.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.